Lleoliad priodas moethus cefn gwlad mewn sgubor yng nghôl y bryniau

Lle mae cariad yn byw
Ar odre mynydd Berwyn, gydag ardaloedd seremoni yn yr awyr agored a’r tu mewn, gerddi syfrdanol a chroeso heb ei ail yn ein lleoliad teuluol.

Fan hyn mae’r priodasau mwyaf anhygoel…
Cefn gwlad gwyrdd iraidd, y dewis rhwng priodi tu mewn neu yn yr awyr agored, bwyd a diod gwirioneddol dda, lleoliad gwledig mewn sgubor sy’n llawn moeth ymhob twll a chornel, a’ch hoff bobl i gyd yn yr un lle yn dathlu yn eich cwmni.
Ymlacio mewn amgylchedd moethus yw naws ein lleoliad ni. Rydyn ni’n caru dod â phobl ynghyd i’w diddanu, ac o hynny y datblygodd ein cyfuniad o swyn gwledig a gwasanaeth gwirioneddol dda er mwyn i chi allu joio’n iawn efo ffrindiau a theulu.

… lle mae digonedd o le, tu mewn a tu allan
Lleoliad gwych i briodi mewn sgubor foethus yw Tower Hill Barns, gyda digon o le i grwydro, a chi fydd biau’r cyfan. Gallwch briodi yn yr awyr agored o dan yr hen bont reilffordd ar y lein hanesyddol o Langollen i’r Bermo. Neu beth am gael seremoni dan do yn ein hen sgubor sydd wedi ei thrawsffurfio’n arbennig.
Ar ôl hynny, dewch i ddathlu gyda pheint neu goctêl yn heulwen braf y teras a gwledda yn ein neuadd dderw lle bydd digon o oleuni naturiol i ddangos y wlad o’ch amgylch yn ei holl ogoniant. Yna, yn goron ar y diwrnod, bydd y parti’n parhau yn hwyl yr hen sgubor. Popeth sydd ei angen i gael dathliad gwerth chweil; yr unig beth i’w ychwanegu yw’r gwesteion.

…gyda bwyd a diod anhygoel
Rydyn ni’n falch eithriadol o’r bwyd a’r diod blasus sy’n tynnu dŵr o ddannedd pob torf. Nid ar chwarae bach y dywedwn ein bod yn dangos ein cariad drwy’n cegin.
Wnewch chi a’ch gwesteion ddim tewi â sôn am ein bwyd a’n diod gwirioneddol dda. Cymro i’r carn yw Rich, ein prif gogydd, a’i angerdd yw creu prydau rhagorol sy’n defnyddio cynhwysion lleol – prydau sy’n rhoi llwyfan i ffermwyr a chynhyrchwyr o Gymru ac yn gwneud yn siŵr na fyddwch chi’n llwglyd. O’r canapés gyda’ch diod wrth ichi gyrraedd, i’r wledd briodas, y pryd gyda’r nos, a hyd yn oed eich brecwast fore trannoeth, bydd ein tîm yn gweithio gyda chi i greu’r union fwydlen briodasol ar eich cyfer. Yn yr un modd gall y tîm tu ôl i’r bar deilwra’r diodydd i weddu i ofynion eich gwesteion.

…wedi’i weini gan griw sydd wrth eu bodd yn eich croesawu
Tower Hill Barns yw’r lle y gallwch chi roi eich stamp eich hun ar eich priodas. Mae’n fraint i ni gael eich croesawu yma, bob un ohonoch. Mae hefyd yn destun balchder inni fod pob priodas a gynhaliwn yma yn adlewyrchu personoliaeth y cwpwl hapus bob tro. Dyna’r nod yn y pen draw – dathlu llawenydd eich cariad gyda phriodas anhygoel sy’n unigryw i chi.
Diolch am gael dod gyda chi ar y daith. Rydyn ni’n caru pob eiliad ohoni. Rydyn ni’n dîm o’r iawn ryw: yn ofalus, yn sylwi ar bob manylyn, ac yn barod i roi croeso heb ei ail. Dyna’n natur ni, gan ein bod yn wych wrth ein gwaith, ac yn mwynhau ein gwaith. Priodasau, a dim arall, yw’n harbenigedd ni. Felly gallwch chi ddibynnu arnon ni i ddeall yn union beth sy’i angen.

…yn nythu yn eich darn bach chi eich hun o adref
Ar gwr dyffryn Dyfrdwy ymysg mynyddoedd hardd Berwyn, dafliad carreg o safle treftadaeth y byd Pontcysyllte, mae Tower Hill Barns yn ymfalchïo yn ein gwreiddiau yma yng Nghymru.
Gwaith hawdd fydd ein cyrraedd o unrhyw briffordd neu orsaf, felly fyddwch chi byth yn rhy bell o adref. Dim angen sôn am Gogs a Hwntws yma – rydyn ni i gyd yn un teulu mawr!

…eich cartref oddi cartref
Hop, cam a naid o’r llawr dawns. Bydd cân yr adar yn eich cyfarch wrth ddeffro cyn mynd am frecwast yng nghwmni’ch anwyliaid. Mae lle i ddeg gysgu yn y Ffermdy, ein llety cefn gwlad moethus, dafliad carreg o’r sgubor. Dychmygwch: tân coed, soffa ledr, bwrdd bwyd â digon o le i bawb, a’ch gardd eich hun i feddwi ar yr olygfa.
Cewch hel clecs dros baned am firi neithiwr, ac yn yr Ystafell Mis Mêl bydd priodas newydd sbon yn gweld golau ei gwawr gyntaf. O gofio hefyd am ein bythynnod glampio i unrhyw westeion eraill, dyma’r llecyn perffaith i aros a dathlu.

…gyda chyflenwyr gwych sy’n deall i’r dim
Mae rhywbeth sy’n arbennig am gael gweithio â phobl sy’n gwneud ichi deimlo’n gartrefol. Rydyn ni’n falch o argymell cylch dethol o gyflenwyr yr ydyn ni’n ymddiried ynddyn nhw, a rhai ohonynt yn siaradwyr Cymraeg. Gwerthwyr blodau, ffotograffwyr, dathlydd priodasau a rhagor––maen nhw’n siarad yr un iaith â chi a hefyd yn deall rhythm a llif ein priodasau ni yma yn Tower Hill Barns.
Maen nhw’n nabod y lle, y golau––yn deall y teimlad. Gallan nhw helpu i ddod â’ch gweledigaeth yn fyw gyda gofal, rhwyddineb, a chyswllt agos â’r lle. Os ydych chi am ddechrau mynd ati i chwilio, gallwch weld rhestr o’r cyflenwyr a argymhellwn yma.

…Dewch i’n gweld ar ymweliad personol
Gadewch inni’ch tywys chi o gwmpas ein lleoliad a’n gerddi ac yna cawn eistedd i lawr i drafod eich syniadau am eich priodas dros baned. Cliciwch y ddolen isod i anfon eich manylion atom, ac mi gysylltwn â chi i drefnu eich ymweliad personol.

Anfonwch ymholiad atom ni
Ydych chi’n barod i ddod i’n gweld ni, sgwrsio am ddyddiadau a derbyn dyfynbris personol? Llenwch y ffurflen isod a cysylltwn a chi i drefnu